Lettings
Mae Susan Jones ac Iola Jones wedi bod yn ffrindiau agos ers blynyddoedd ac yn rhannu llawer yn gyffredin, gan gynnwys eu hagwedd at eu gwaith – bob amser yn anelu i fod yn dryloyw a gwneud pethau’n gywir. Fel un sydd â diddordeb mawr mewn tai ac eiddo, cwblhaodd Iola ei chymwysterau proffesiynol mewn Gosod Preswyl a Rheoli Eiddo cyn cychwyn ei busnes ei hun – Eiddo iola jones Properties. Mae Iola yn aelod o ARLA Propertymark sef y corff proffesiynol ar gyfer asiantau gosod tai ac yn cynnig gwasanaeth o’r safon uchaf i landlordiaid a thenantiaid.
Susan Jones and Iola Jones have been friends for numerous years with many things in common including their work ethic - aiming to do things correctly and transparently. Iola has always been interested in property and undertook her professional qualifications in Lettings and Property Management before starting her business as Eiddo iola jones Properties. Iola Jones is a member of the Association of Residential Letting Agents and offers a first-class bespoke service to landlords and tenants.

Cyniga Eiddo iola jones Properties ystod o wasanaethau gosod a rheoli wedi eu teilwra i gyfarfod â’ch anghenion unigol chi. Gallwch fod yn sicr o’r gwasanaeth gorau wedi ei sylfaenu ar ein dealltwriaeth fanwl o’r sector gosod a rheoli preswyl.
Mae’r diwydiant hwn wedi ei reoleiddio’n drwm sy’n un rheswm pam fod Landlordiaid yn disgwyl gwasanaeth o’r safon uchaf gan yr Asiant a ddewisir ganddynt. Ein nôd yn Eiddo iola jones Properties yw darparu gwasanaeth personol a hyblyg sy’n adlewyrchu anghenion amrywiol ein cleientiaid. Er enghraifft, cleient heb amser digonol i sicrhau’r elw gorau ar eu portffolio, landlord dibreswyl sydd angen asiant cwbl ddibyniadwy neu rhyw un sydd yn teimlo yn ansicr gyda’r holl reoliadau llywodraethol a Rhentu Doeth Cymru. Rydym yn ymfalchio mewn darparu gwasanaeth cwbl ddibyniadwy a gwerth rhagorol am arian. Cewch fod ein ffioedd yn hynod gystadleuol, yn deg ac yn dryloyw. Eich buddsoddiad chi yw ein busnes ni.
Eiddo iola jones Properties provides a range of letting and management services, tailored to meet your individual needs. You can be assured that we have a detailed understanding of the residential lettings and management sector and will ensure that you are given the best possible service.
This industry is heavily regulated which is one reason why Landlords have come to expect extensive knowledge and expertise from the Agency they choose to act in their interests. Our aim at Eiddo iola jones Properties is to provide a personal and flexible service to reflect the diverse needs of our clients. For example, a client who does not have the necessary time to achieve the best return on their portfolio, a non-resident landlord who needs an agent they can fully rely on to manage their property or someone who just feels a little out of their depth to keep up with Rent Smart Wales regulations. We pride ourselves on providing a totally trustworthy and excellent value for money service. Our rates are highly competitive, fair and transparent. Your investment is our business.