News
Gwerthu eich eiddo? Gwnewch yn siwr ei fod yn barod i’w farchnata!
Ma’ penderfynu gwerthu eich eiddo yn gam mawr. O benderfynu gwerthu ma’ sawl peth i’w wneud cyn rhoi eich eiddo ar y farchnad er mwyn sicrhau eich bod yn cael y pris gora phosib.
Dyma fy ‘top tips’ ar gyfer gwerthu’n gyflym ac am y pris gora’.
‘Kerb appeal’
Mae’r argraff cynta’ yn cyfri’ – mae’n werth talu sylw i’r ffenestri, y drws ffrynt, y gwaith maen a chyflwr yr ardd.
Y ffenestri a’r drws ffrynt
Glanhewch y gwydrau ac unrhyw fframiau PVC gyda cynyrch pwrpasol neu un wedi ei wneud gartref gyda 50/50 dŵr a finegr gwyn a squirt reit dda o Fairy Liquid. Ma’ hwn yn yn hylif llnau effeithiol – ei chwistrellu, llnau ac yna hen dywel i sgleinio.
Gyda fframiau metal neu bren, mae’n werth tynnu unrhyw baent sydd wedi codi ac ail-baentio’r ffram.
Y gwaith maen
Y waliau, stepan drws, unrhyw golofnau ayb – bydd glanhau ac ail-baentio fel sydd angen yn gwneud byd o wahaniaeth. O bosibl, bydd angen ail-bwyntio rhwng y cerrig neu’r gwaith brics.
Yr ardd
Torri’r gwellt, tynnu chwyn a blodau sydd wedi marw a glanhau unrhyw lwybrau. Mae’n werth glanhau hen botiau a phrynu ambell blanhigyn er mwyn ychwanegu lliw a chroeso.
Os oes rheiliau, gellir defnyddio brwsh weirs i dynnu unrhyw baent rhydd ac yna ail-baentio efo paent metal. Os oes ffens bren, gellir rhoi darnau newydd yn lle unrhyw rai sydd wedi pydru ac ail-baentio gyda paent gardd pwrpasol fel Cuprinol Shades, sydd ar gael mewn cyfres o liwiau hyfryd.
Tu mewn
Wedi denu y prynwr dros yr hiniog, rhaid canolbwyntio ar du mewn eich eiddo. Ni fydd angen gwario ffortiwn i gael eich eiddo yn barod i’w werthu, ond bydd yn fanteisiol gwario amser yn tacluso, clirio a gwneud ychydig o gynnal a chadw.
Tacluso
Y nod ydi lleihau llanast heb effeithio gormod ar eich bywyd o ddydd i ddydd. Cadw llestri yn syth, rhoi tegannau yn y bocs ar ôl gorffan chwarae a rhoi dillad budur yn y fasged neu’r peiriant – ma’ pethau bach fel hyn yn help mawr os daw apwyntiad byr rybudd i weld eich eiddo. Sannau chwyslyd ar lawr yr ystafell wely ydi un o’r pethau nad yw’r prynwr eisiau eu gweld!
Clirio
Mae’n werth cael ‘de-clutter’ cyn rhoi eich eiddo ar y farchnad yn arbennig os oes gennych ychydig gormod o nicnacs a lluniau o gwmpas y lle. Wrth gadw rhai o’r pethau yma bydd yn haws llnau cyn i’r prynwr gyrraedd. Mae’n syniad da hyd yn oed storio ychydig o ddodrefn nad oes ei angen gan fod hyn yn helpu i’r ystafell edrych yn fwy.
Os yn bosibl, rhowch spring clean da i’r eiddo cyn ei roi ar y farchnad gan gynnwys skirtings, drysau a drysau cypyrddau gegin, switsh golau a socedi plygia, teils a growt. Os ydi’r carpedi’n edrych yn fudur, gellir llogi peiriant golchi carped am bris rhesymol a bydd golchi llenni ayb a llnau tu mewn i’r ffenestri i gyd yn helpu i roi’r argraff gorau.
Os oes gennych anifeiliaid anwes, cadwch gynyrch fel Febreze wrth law i gael gwared ar unrhyw ogleuon drwg!
Cynnal a chadw
Oni bai bo’ cyflwr eich eiddo yn wael iawn, ni fydd angen ail-addurno … ond efallai byddai’n werth targedu rhai mannau e.e. o gwpmas switsh golau. Os ydych yn hoff o liwiau cryf a ballu efallai byddwch yn dewis ail-addurno efo lliwiau mwy niwtral sy’n apelio mwy ar lefel cyffredinol.
A oes gennych foelar sydd angen service? Mi fyddai unrhyw brynwr yn gwerthfawrogi petai hynny wedi cael ei wneud. Yn yr un modd efo llnau simdde.
Rhaid sicrhau fod unrhyw offer nwy/trydan sy’n cael eu gwerthu efo’r eiddo mewn cyflwr da a diogel.
Cofiwch sortio unrhyw broblemau fel tamp ayb cyn rhoi eich eiddo ar y farchnad oherwydd bydd prynwyr yn trefnu arolwg o’r eiddo cyn penderfynu ei brynu.
Gardd ac adeiliadau tu allan
I lawer o brynwyr, mae’r ardd yn rhan pwysig o’r eiddo felly hyd yn oed os nad ydych yn hoffi garddio, mae’n werth dangos yr ardd ar ei orau trwy dorri’r gwellt yn rheolaidd, chwynu, tynnu blodau marw a llenwi potiau gyda blodau lliwgar.
Mae jet wash yn wych ar gyfer llwybrau ayb ond ma brwsh sgwrio a sebon yn gweithio’n ddigon da, nid yn unig ar y llwybrau ond ar y waliau a chefn yr eiddo hefyd. Dylid cadw’r landeri ag ati yn rhydd o ddail a ballu.
Cadwch yr ardd mor daclus a phosib trwy gadw potiau gwag, offer garddio, tegannau ayb. Os oes gennych bwll neu dwba poeth, cadwch y rhain yn berffaith lân.
Dylai unrhyw siediau ayb fod mewn cyflwr reit dda, gall ail-baentio sied bren wneud byd o wahaniaeth a glanhau gwydrau tŷ gwydr.
Casgliad
Mae ‘na dipyn go lew i fynd trwyddo yma a digon o waith caled, yn arbennig os nad ydych yn hoff o llnau a garddio! Ond bydd y gwaith caled yn talu ar ei ganfed gan fod eich eiddo’n llawer mwy tebygol o werthu yn gyflym ac am bris da.